Awgrymiadau am sut i fynd ati i ddysgu Cymraeg

gan Dr Jon Morris, Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd @ysgolygymraeg

Mae dysgu iaith yn anodd, does dim dwywaith amdani. Ond pam mae dysgu iaith newydd yn bwysig? Wel, gall eich gwneud chi'n glyfrach, yn fwy creadigol, yn fwy empathetig a gall agor bydoedd cwbl newydd. O ran dechrau dysgu iaith newydd, nawr yw'r amser gorau heb os. Ond sut gallwch chi ddysgu iaith yn effeithiol a chynnal eich cymhelliant?

Wrth i ni baratoi i fynd â Petula i’r llwyfan, cyd-gynhyrchiad dwyieithog Cymraeg/Saesneg cyntaf gyda National Theatre Wales, Theatr Genedlaethol Cymru ac August 012, fe wnaethom ofyn i Dr Jon Morris o Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd roi ei bum awgrym gorau i ni ar gyfer dysgu Cymraeg - neu unrhyw iaith a dweud y gwir!

Felly, dyma chi…

Meddyliwch pam rydych chi eisiau dysgu Cymraeg

Os ydyn ni am wneud rhywbeth yn dda, rhaid i ni fod yn awyddus iawn i fynd amdani. Mae angen i ni gael ein cymell i wneud rhywbeth ac, yn bwysicach fyth, i gadw’r cymhelliant hwnnw i fynd am gyfnod hir o amser. Yr awgrym cyntaf yw i feddwl pam rydych chi’n awyddus i ddysgu Cymraeg, neu wella’r hyn rydych yn ei wybod yn barod, a gwneud nodyn ohono fel bod modd i chi edrych yn ôl ar eich rhesymau pan fydd eich brwdfrydedd yn pallu. 

Bydd gan bawb resymau gwahanol dros ddysgu’r iaith, felly cymerwch amser i feddwl am y peth. Ac os nad oes gennych y mymryn lleiaf o ddiddordeb mewn dysgu Cymraeg, ystyriwch yn ofalus! Ydych chi’n credu ei bod yn rhy anodd? Neu’n ddiflas? Pam rydych chi’n meddwl hynny? Gall meddwl am eich rhesymau wneud i chi sylweddoli eich bod efallai’n neidio i gasgliadau, neu eich bod wedi cael profiadau negyddol sy’n effeithio ar eich agwedd meddwl. 

P’un ai a ydych chi wedi cwympo mewn cariad â dysgu Cymraeg, neu bod angen mwy o berswâd arnoch, bydd arnoch angen yr awgrym nesaf…

Chwiliwch am bethau mae gennych ddiddordeb ynddyn nhw 

Bydd angen gweud tipyn go lew o ymdrech os ydych chi am ddysgu Cymraeg, ond dyw hynny ddim yn golygu bod raid iddo fod yn ddiflas. Pan fyddwch yn dysgu iaith, y peth pwysicaf yw eich bod yn ei chynnwys yn eich bywyd o ddydd i ddydd mor aml ag sy’n bosib. Gall hynny olygu dilyn cyfrifon Cymraeg ar Instagram, gwrando ar bodlediad Cymraeg, neu wrando ar gerddoriaeth Gymraeg. Gall hyd yn oed dewis fersiwn Cymraeg gwahanol wefannau eich helpu i sylwi ar bethau a’u dysgu. Fyddwch chi ddim yn gallu deall popeth, ond mae hynny’n iawn! 

Mae ’na lwythi o bethau ar gyfer pobl o wahanol oedrannau a diddordebau, felly ewch ati i weld beth sydd ar gael! Mae dod o hyd i rywbeth mae gennych wir ddiddordeb ynddo hefyd yn eich helpu i gynnal eich cymhelliad.

Dewiswch system i’w dilyn

Y tric yw gwneud nodyn o eiriau newydd neu bwyntiau gramadeg, a’u hadolygu’n rheolaidd. Does dim rhaid i chi fynd dros ben llestri, ond defnyddiwch lyfr nodiadau i ysgrifennu geiriau newydd a phatrymau rydych yn eu gweld yn yr iaith. Gall nodiadau ar eich ffôn weithio llawn cystal, ac mae ’na apiau ar gael sy’n trawsnewid eich nodiadau’n gardiau fflach fel bod modd i chi eu cofio’n well. 

Siaradwch gyda phobl

Lle bynnag rydych chi’n byw yng Nghymru, mae siarad Cymraeg yn haws nag a feddylioch chi! Ewch i rai o’r digwyddiadau sy’n cael eu trefnu yn eich ardal chi (bydd eich cangen leol o’r Urdd neu Fenter Iaith yn gallu cynnig awgrymiadau). Ewch ati i ddefnyddio mwy o Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol – ac os yw popeth arall yn methu, siaradwch Gymraeg gyda chi’ch hun! 

Peidiwch â cheisio bod yn berffaith, na throi a throsi pethau yn eich meddwl 

I’r rhan fwyaf o bobl, siarad gyda phobl eraill yw’r peth mwyaf anodd am ddysgu iaith, ond does dim gwell ffordd o ddysgu ac o ddangos i chi’ch hun cymaint rydych chi’n ei wybod.

Mae cael i mewn i’ch pen eich hun yn hawdd wrth geisio siarad iaith rydych yn ei dysgu. Ydych chi’n gwybod digon i allu dweud rhywbeth? Beth wnewch chi os na fyddwch yn deall rhywbeth? Fydd pobl yn chwerthin am eich pen os byddwch chi’n gwneud camgymeriad?

Y gwir yw, does neb wir yn gwybod yr ateb i’r cwestiynau hyn. Mae’n gwbl naturiol bod pobl yn teimlo’n bryderus, ond mae hynny wedi’i seilio ar ein tybiaethau ynghylch beth rydyn ni’n credu sydd wedi digwydd yn y gorffennol, neu beth allai ddigwydd yn y dyfodol. Ceisiwch anwybyddu’r llais bach yn eich pen, a defnyddiwch y Gymraeg rydych yn ei dysgu. Peidiwch ag aros am yr ‘amser iawn’, na phoeni am wneud ffŵl ohonoch chi’ch hun. Os ydych yn dal i deimlo’n bryderus, dechreuwch gyda rhywbeth bach a pharatoi cynllun i’w ddilyn. Dewiswch rywbeth rydych chi’n awyddus i’w wneud – e.e. gofyn am rywbeth mewn siop – yna meddyliwch pa eiriau fydd eu hangen i wneud hyn, a sut i ymateb os nad ydych chi’n deall rhywbeth.

Dolenni dysgu Cymraeg defnyddiol

Nid yw dysgu Cymraeg erioed wedi bod yn haws ac mae llawer o adnoddau hwyliog ar gael i'ch helpu. Dyma sut gallwch chi ddysgu Cymraeg…

  • Dysgu ar-lein

Gallwch ddysgu Cymraeg ar-lein gydag apiau fel Duolingo a Say Something in Welsh a gallwch ddysgu am ddim gyda thanysgrifiad sylfaenol.

  • Wyneb yn wyneb

Os ydych chi'n pendroni yn lle gallwch chi ddysgu Cymraeg wyneb yn wyneb â dysgwyr eraill, mae Dysgu Cymraeg yn cynnig cyrsiau strwythuredig mewn ystafell ddosbarth dros Zoom.

  • Angen help i wella eich Cymraeg? Rhowch gynnig ar yr apiau a'r gwefannau rhad ac am ddim hyn:

Gwiriwr sillafu a gramadeg Cymraeg un stop yw Cysill

Mae Ap Treiglo yn ffordd wych o ddysgu a gwirio'r treigladau dyrys hynny

Ap Geiriadur yw'r dewis ap o ran Geiriadur Cymraeg gan Brifysgol Bangor

Felly? Am beth yr ydych yn aros?  Lawrlwythwch yr ap Cymraeg hwnnw, trowch y radio Cymraeg i fyny a dysgwch! Daliwch ati!