2 funud gyda… Dewi Wykes

Y bachgen rhyfeddol Dewi Wykes fydd yn chwarae rhan Pwdin Evans yn ein hantur amlieithog anhygoel o absẃrd. Yn wreiddiol o dref Rhuthun yng ngogledd Cymru, fe raddiodd Dewi o’r Bristol Old Vic Theatre School eleni. Yn ein sgwrs, mae’n sôn am ei hoffer o paninis ham a chaws, Timothée Chalamet mewn prostheteg, a moment lletchwith yn ei ddosbarth addysg gorfforol yn yr ysgol gynradd

Sut wnes ti glywed dy fod wedi cael rhan Pwdin Evans?
Ro’n i’n gwneud pasta pan ges i’r alwad. Wrth i mi wrando ar y manylion, roedd fy ffrindiau’n dathlu ac yn gweiddi’n ddistaw yn y gegin!

At beth rwyt ti’n edrych ymlaen fwyaf am fod yn rhan o Petula?
Dwi’n methu aros i ddechrau yn yr ystafell ymarfer. ’Sgen i ddim syniad sut bydd y ddrama yn dod at ei gilydd, ond dwi’n edrych ’mlaen at weld beth ddigwyddith; i greu'r byd rhyfedd yma gyda’r cast a’r criw anhygoel yma.

Pam wnes di benderfynu dod yn actor?
Cymysgedd o Rhys Ifans a’r ffaith fod pob pwnc ysgol arall yn ddiflas o’u cymharu â drama.

Disgrifia dy hun mewn tri gair
Bychan, Cymraeg, llawn cyffro

Os byddet ti’n archarwr, beth fyddai dy bŵer arbennig di?
Cyflymder aruthrol

Pa air neu ymadrodd wyt ti’n ei orddefnyddio fwyaf?
‘Reit ’ta!’ Dwi’n ei ddefnyddio ym mhob brawddeg.

Mewn ffilm yn adrodd hanes dy fywyd, pwy fyddai’n dy chwarae di?
Timothée Chalamet mewn prostheteg trwm

Beth yw’r foment fwyaf chwithig rwyt ti erioed wedi’i chael?
Rhechan mewn dosbarth addysg gorfforol yn yr ysgol gynradd.

Ffwrdd â ti i’r gofod! Cei fynd â thri pheth. Beth fydden nhw?
Coffi, Spotify a panini ham a chaws

Star Trek neu Star Wars?
Star Wars!

Beth yw’r darn gorau o gyngor i ti ei dderbyn?
Mi fyddi di’n gallu goresgyn beth bynnag sy’n cael ei daflu atat ti, y da neu’r drwg.

Beth yw dy hoff gân i’w chanu yn y gawod?
Clywed dy Lais - Bwncath

Pa emoji wyt ti’n defnyddio fwyaf?
😂

Beth yw dy hoff le yng Nghymru?
Adre, Moel Famau.

Pwdin ‘dolig neu gacen ‘dolig?
Pwdin, wrth gwrs!

Sgen ti jôc i ni?
Mae ceffyl yn cerdded i mewn i far… awtsh!