Gwybodaeth hygyrchedd

Sain Ddisgrifiad

Perfformiadau sain ddisgrifiad yn Theatr y Sherman, Caerdydd

Dydd Gwener 18 Mawrth: sain ddisgrifiad yn Gymraeg gan Ioan Gwyn.

Dydd Sadwrn 19 Mawrth: sain ddisgrifiad yn Saesneg gan Ioan Gwyn, ynghyd â chyfieithiad byw o’r sgript Gymraeg, i’r Saesneg, gan Carys Eleri.

Gallwch bigo eich clustffonia di-wefr i fyny o’r cyntedd yn y Sherman

Nodyn cyflwyniad sain a ddisgrifiwyd

Cyn y sioe, bydd nodyn cyflwyno ar gael yn y theatr.


Perfformiadau wedi’u harwyddo (BSL)

BSL gan Catheryn McShane

Dydd Mercher 16eg o Fawrth: Theatr y Sherman, Caerdydd

Dydd Gwener 25ain o Fawrth: Pontio, Bangor

Capsiynau

Bydd capsiynau llawn ar gael ar gyfer pob perfformiad o Petula. Bydd dwy sgrin gyda’r capsiynau yn yr awditoriwm:

  • Bydd y sgrin ar y dde yn dangos capsiynau Saesneg, gyda chyfieithiad o’r ddeialog Gymraeg

  • Bydd y sgrin ar y chwith yn dangos capsiynau Cymraeg a Saesneg heb gyfieithiad

  • Mae ychydig o’r ddeialog yn Ffrangeg. Bydd capsiynau ar y ddwy sgrin, ond ni fydd cyfieithiad o’r ddeialog

 Dylai'r ddwy sgrin fod yn weladwy o bob sedd, ond efallai y dymunwch ddewis sedd sydd yn groeslinol gyferbyn â’ch sgrin ddewisol.


Os oes gennych unrhyw anghenion mynediad/hygyrchedd ychwanegol yr hoffech drafod, ffoniwch Pete ar 029 2035 3075 neu e-bostiwch boxoffice@nationaltheatrewales.org.