ysbrydoliaeth ddiwylliannol Mathilde

Mae Cyfarwyddwr Petula, Mathilde López, yn rhannu’r hyn sy’n rhoi ysbrydoliaeth ddiwylliannol iddi, o deithio yn y gofod i osodiadau ymdrwythol.

Wedi’i geni yn Ffrainc, hyfforddwyd Mathilde yng ngholeg Central Saint Martins, Llundain, ac mae hi wedi cyfarwyddo gwaith i rai o theatrau a gwyliau gorau’r wlad. Hi yw Cyfarwyddwr Artistig cwmni theatr August 012 ac mae ei gwaith yn feiddgar, yn fentrus a *mymryn* yn abswrd. Mae Mathilde yn byw yn Nhrelluest, Caerdydd, gyda’i theulu.

Yuri Gagarin

Arwyr

Yuri Gagarin [y person cyntaf i fynd i’r gofod] oedd fy arwr, ac mae’n parhau i fod felly. Roedd y crys-t gen i, y poster, y cerdyn post; cyffyrddais â’r siwt roedd yn ei gwisgo ar Sputnik ac rwy’n dal i gynnau cannwyll ar ddyddiad ei farwolaeth – sef 27 Mawrth, gyda llaw.

 

Obsesiynau

Mae gen i dipyn o obsesiwn am bopeth yn ymwneud â’r gofod a phethau sy’n hedfan. Vostok, y Sukhoi, Concorde, y cyfan oll. Tyfais i fyny gyda delweddau ohono, darnau ohono. Rwy’n tanysgrifio i fwletin wythnosol Nasa ac yn dilyn yr holl ddatblygiadau sy’n ymwneud â’r blaned Mawrth. Ond nid yn yr ochr dechnegol mae fy niddordeb. Mae’n ymwneud mwy â’r atyniad at ein hymdrechion dygn i gyrraedd y cosmos. A hefyd, y gobaith y byddaf innau hefyd yn ei gyrraedd.

 

Llyfrau

Dros yr wythnosau diwethaf rwyf wedi bod yn llyncu gwaith Manon Steffan Ros; The Seasoning, The Blue Book of Nebo. Mae natur ddiymhongar ei gwaith, a’r uchafbwyntiau emosiynol mae’n gwneud i mi eu cyrraedd, yn wych. Rwyf hefyd yn rheolaidd yn ailddarllen gwaith yr athronydd o Ffrainc, Jean Baudrillard, sef The Agony of Power, a phob tro rwy’n gwneud hynny rwy’n cael fy syfrdanu gan briodoldeb a manylrwydd yr hyn rwy’n llwyddo i’w ddeall.

Annette Messager, Désarticulés
(2001 - 2002)

Cerddoriaeth

Rwy’n gwrando ar Tim Maia a Jorge Ben Jor cyn amled ag y gallaf. Rwyf hefyd yn gwrando ar fy ffrind Katell Keineg, sy’n gwbl gyfareddol.

 

Iechyd

Rwy’n hoffi rhedeg, ond sylweddolais mai’r hyn rwy’n ei hoffi yn ei gylch yw clywed fy hun yn anadlu. A siarad gyda’r hwyaid.

 

Teledu

Ro’n i wrth fy modd gydag I May Destroy You gan Michaela Cole. Mae’n ymgais brin i siapio anawsterau a syniadau anodd ar y teledu, yn eu holl gymhlethdod a’u lluosogrwydd.

 

Ffilm

Mae Rocks gan Sarah Gavron yn ffilm anhygoel am dlodi yn Llundain (nesaf at y fath gyfoeth). Mae’n cynnwys nifer fawr o themâu, yn eu plith mewnfudo, plentyndod, mamolaeth ac iechyd meddwl, ac ynddi mae ’na actorion ifanc yn ymgymryd â golygfeydd gwych wedi’u perfformio’n fyrfyfyr.

Celf

Pan fyddaf yn cau fy llygaid ac yn meddwl am Petula a Pwdin, rwy’n dychmygu fy hun yn cael fy amgylchynu gan gerflun Juan Munoz, sef Figura que escucha, Désarticulés gan Annette Messager a’r cyfan o waith Pipilotti Rist. Unigedd ffigur Munoz, y teganau plant erchyll a phrydferth yn hongian yn ystafelloedd unig Messager, ac archwiliad cyson Rist i’r raddfa fideo micro a meddyliau micro.

Y Fari Lwyd

Lleol

Wel, mae fy nghymydog a’i blant wrth fy nrws y funud hon yn taflu tipyn o Pwnco ataf i, gyda’r Fari Lwyd yn trotian o gwmpas – a’r Fari Lwyd yn cael ei gan ei wraig, sy’n Americanes.

Mae Petula yn agor yn Theatr Sherman, Caerdydd ar 12 Mawrth cyn teithio i theatrau ledled Cymru.